Sut mae’n gweithio
Mae digwyddiad paru yn ffordd gyflym a hawdd i gwrdd â phartneriaid posibl.
Mae pobl yn cwrdd ac yn cyfarch ei gilydd yn gyflym. Mae 15 munud fel arfer yn ddigon o amser i adeiladu cysylltiadau, ac yna mae’r gloch yn canu ac mae’r cyfarfod nesaf yn dechrau.
Mwy o fanylion ynglŷn â’r llif gwaith
1) Cofrestru ar-lein
Cofrestrwch ar-lein a chyflwynwch broffil o’ch cwmni eich hun.
- Os ydych chi’n ddarparwr neu’n fuddsoddwr cronfa, darparwch grynodeb o’r mathau o fusnesau bwyd a diod y mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw, maint y gronfa, a’r mathau o gyllid yr ydych chi’n eu cynnig
- Os ydych chi’n fusnes bwyd neu ddiod, darparwch grynodeb o’ch busnes, eich nwyddau ac unrhyw arian/cyllid/buddsoddiad/cymorth penodol y mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw o’r rhestr wirio a ddarperir
Bydd yr holl broffiliau yn cael eu cyhoeddi ar-lein. Gallwch chi newid eich proffil unrhyw bryd.
Nodwch: Mae proffiliau o ansawdd uwch yn derbyn mwy o geisiadau i gyfarfod. Eich proffil busnes chi yw eich cerdyn busnes, ac felly treuliwch ychydig o amser yn creu proffil ystyrlon ac uchel ei safon.
2) Dewis cyfarfodydd
Hysbysiad drwy e-bost
Byddwch chi’n cael eich hysbysu drwy e-bost pan allwch chi ddechrau bwcio cyfarfodydd. Gwiriwch pa broffiliau sydd o ddiddordeb i chi drwy ddefnyddio’r dewisiadau chwilio deallus ar gyfer adnabod y cyfranogwyr mwyaf addas yn gyflym.
Bwcio cyfarfodydd
Unwaith yr ydych chi wedi dod o hyd i’r proffiliau mwyaf addawol, gallwch chi eu dewis nhw ar gyfer cyfarfodydd. Gallwch chi ychwanegu mwy o gyfarfodydd unrhyw bryd, ond byddwch yn ymwybodol fod y bwciadau yn cael eu rheoli ar yr egwyddor “cyntaf i’r felin – gaiff falu”. Gallwch chi fwcio cyfarfodydd OND gallwch chi hefyd gael eich bwcio ar gyfer cyfarfod gan gyfranogwyr eraill! Er mwyn cael mwy o wybodaeth, gweler Cwestiynau a ofynnir yn aml.
Amserlen bersonol o’ch cyfarfodydd
Ychydig ddyddiau cyn y gynhadledd, byddwch chi’n derbyn amserlen bersonol o’ch cyfarfodydd (gallwch chi wirio yn gyson eich amserlen gyfarfodydd ar-lein). Mae’r amserlen gyfarfodydd hon yn rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â’r amser, rhif y bwrdd a phwy y byddwch chi’n ei gyfarfod.
3) Yn y digwyddiad
At the registration desk, a copy of your meeting schedule will also be available. Your personal meeting schedule lists each meeting in chronological order.
Sicrhewch eich bod yn mynychu'r cyfarfodydd sydd wedi'u trefnu. Byddwn yn darparu signalau 2 funud cyn i slot cyfarfod gau er mwyn caniatáu amser i ddod â'ch cyfarfod i ben a chytuno ar gamau pellach. Byddwch yn ystyriol o gynrychiolwyr eraill a allai fod yn aros i gwrdd â chi neu'ch gwestai a symud rhwng cyfarfodydd mewn modd amserol.
Bydd ein staff ar gael i ddarparu cefnogaeth a chymorth yn ystod y digwyddiad cyfan.
Os nad ydych am fynychu eich cyfarfodydd mwyach, cysylltwch â ni cyn y digwyddiad fel y gellir canslo eich cyfarfodydd. Mae lleoedd yn gyfyngedig ac felly gellir sicrhau bod apwyntiadau ar gael i gynrychiolwyr eraill.