Oes gennych chi gwestiwn?
Gweler rhestr o'r cwestiynau cyffredin isod. Os ydych chi'n dal yn ansicr, cysylltwch â ni!
Sut mae’r paru yn gweithio?
Mewn digwyddiadau paru mae pobl yn cyfarfod ac cyfarch yn gyflym. Bydd y cyfarfodydd hyn yn cymryd rhwng 15 a 20 munud, sydd fel arfer yn ddigon i greu cysylltiadau newydd. Yna, mae’r gloch yn canu a’r mae’r cyfarfod nesaf yn dechrau.
Mae pob cyfranogwr yn cofrestru gyda phroffil a fydd yn cael ei arddangos ar wefan y digwyddiad a gall pob cyfranogwr ddewis cyfarfodydd gyda chyfranogwyr eraill yr hoffen nhw eu cyfarfod. Ychydig ddyddiau cyn y digwyddiad, bydd pob cyfranogwr yn derbyn amserlen gyfarfodydd, a fydd yn dangos PWY fyddan nhw yn ei gyfarfod ynghyd â PHA BRYD ac yn LLE.
Beth yw’r buddion o gyfranogi mewn digwyddiad paru?
Gall yr holl gyfranogwyr gyflwyno eu cwmni a’u proffil ar-lein cyn y digwyddiad. Bydd y proffiliau yn cael eu hyrwyddo ymysg cyfranogwyr a all gysylltu â’i gilydd cyn y digwyddiad. O ganlyniad, mae’r digwyddiad yn cyflwyno ffordd effeithiol iawn sy’n hoelio sylw er mwyn gwneud cysylltiadau newydd.
Sut y gallaf gofrestru i fynychu’r digwyddiad?
Cliciwch ar y botwm “Cofrestru” gwyrdd ar y dudalen gartref i ddechrau’r broses gofrestru.
Pa fath o wybodaeth ydw i ei hangen i gwblhau’r ffurflen gofrestru?
- Ffurflen 1: Sesiynau’r digwyddiad, Sylwadau ar gyfer trefnwyr y digwyddiad
- Ffurflen 2: Data cyswllt (yr Unigolyn a’r Cwmni) – Rhowch ychydig o wybodaeth ynglŷn â’ch sefydliad, ei ffocws a’i feysydd gweithgaredd.
- Ffurflen 3: Proffil busnes er mwyn annog ceisiadau ar gyfer cyfarfodydd o ansawdd uchel
Cwblhewch y proffil a rhowch fanylion ynglŷn â’ch cwmni/nwyddau, fel agweddau arloesol, cyfnod presennol y datblygiad a’r math o gyllid sydd o ddiddordeb i chi. Dylai cyllidwyr/buddsoddwyr roi manylion ynglŷn â’r mathau o ddewisiadau cyllid y maen nhw’n eu cynnig a pha fathau o fusnesau y mae ganddyn nhw ddiddordeb ynddyn nhw.
Y proffil cydweithredu yw eich cerdyn busnes rhithwir
Cyfrinair?
Gallwch chi ddewis cyfrinair yn ystod y cofrestru.
A ydych chi wedi anghofio eich cyfrinair?
Cliciwch ar y botwm Mewngofnodi. Byddwch chi’n gweld dolen “Wedi anghofio eich Cyfrinair” yno. Defnyddiwch y ddolen hon i dderbyn e-bost gyda mwy o gyfarwyddiadau ynddo.
NG: Mae’r e-byst cofrestru yn cynnwys “Dolen Mewngofnodi Awtomatig”. Drwy’r ddolen hon gallwch chi fewngofnodi yn uniongyrchol i’ch Dangosfwrdd personol heb ddefnyddio eich cyfeiriad e-bost a’ch cyfrinair.
Sut i newid y cyfrinair?
Mewngofnodwch os gwelwch yn dda gyda’ch Dolen Mewngofnodi Awtomatig a mynd i Newid Cyfrinair
A yw’n bosibl addasu fy mhroffil?
Ydi, mae’n bosibl. Mewngofnodwch drwy’r botwm Mewngofnodi neu’r ddolen Mewngofnodi Awtomatig yr ydych wedi’i dderbyn gyda’ch e-bost cofrestru.
Yn eich Dangosfwrdd personol, gallwch chi ddefnyddio’r tabiau i addasu unrhyw fath o gynnwys yr ydych chi eisoes wedi’i fewnosod.
Sut y gallaf trefnu cyfarfodydd?
Gellir gwneud ceisiadau am gyfarfodydd un mis cyn y digwyddiad ar ôl i’r rhan fwyaf o’r cyfranogwyr gofrestru.
Byddwch chi’n cael eich hysbysu drwy e-bost ynglŷn â pha bryd y bydd y broses fwcio yn dechrau.
- Dewiswch y ddolen “Cyfranogwyr” o’r brif ddewislen
- Defnyddiwch y botwm gwyrdd “Bwcio cyfarfodydd” y gallwch chi ei weld ar broffil pob cyfranogwr
A allaf i wrthod cais i gyfarfod?
Gallwch, wrth gwrs.
- Yn eich Dangosfwrdd, dewiswch y Tab “Cyfarfodydd” er mwyn rhestru'r holl geisiadau am gyfarfodydd (eich bwciadau eich hun a bwciadau gan Westeion).
- Defnyddiwch y botwm “Gwrthod” i wrthod cais am gyfarfod.
Pam nad wyf wedi derbyn unrhyw geisiadau i gael cyfarfod neu wedi derbyn ychydig o geisiadau yn unig?
Dim un? A ydych chi wedi gweithredu’r blychau gwirio cyfarfodydd busnes i fusnes?
Ychydig yn unig? Byddwch yn derbyn mwy o geisiadau ar gyfer cyfarfodydd os yw eich proffil yn un gwell.
Pa bryd a fyddaf yn derbyn fy amserlen bersonol o gyfarfodydd?
2-3 diwrnod cyn y digwyddiad byddwch chi’n derbyn eich amserlen derfynol o gyfarfodydd drwy e-bost.
Yn nerbynfa’r digwyddiad, gallwch chi gasglu eich amserlen derfynol fel copi papur (gan ystyried newidiadau a diddymiadau munud olaf).
Beth os na allaf gyfranogi yn y digwyddiad paru, oherwydd rhesymau annisgwyl?
Rhowch wybod i drefnydd y digwyddiad yn syth os gwelwch yn dda.