Hero Image
26 November 2019
Cardiff, United Kingdom
Meet the Investor / Scale up Expert at the Sustainable Scale up Conference

Cyfarfod y Buddsoddwr / Arbenigwr Ehangu

Cynhadledd Paratoi ar gyfer Ehangu Cynaliadwy

Caerdydd, 26ain Tachwedd 2019

Mae’r gynhadledd hon yn cynnig y cyfle i gyfranogwyr ddeall yr heriau o ehangu eu busnesau bwyd a diod.  Bydd y gynhadledd, sy’n cael ei llywyddu gan Fwyd a Diod Cymru a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, yn cynnig diwrnod gwerthfawr o gyfarfodydd briffio, mewnwelediadau a rhwydweithio ar draws y diwydiant bwyd a diod, cyllidwyr a buddsoddwyr ac arbenigwyr ehangu.  

Nod y gynhadledd fydd paratoi busnesau bwyd a diod i gynllunio eu siwrnai ehangu, p’un a yw honno yn ehangu o fusnes micro i fusnes bychan, busnes bychan i fusnes canolig neu fusnes canolig i fusnes mawr.

Cyfarfod y Buddsoddwr / Arbenigwr Ehangu

Nod y sesiwn hon yw cysylltu cynhyrchwyr bwyd a diod â buddsoddwyr neu arbenigwyr ehangu posibl drwy gyfarfodydd wyneb yn wyneb yn ystod y gynhadledd.  Bydd cynhyrchwyr bwyd a diod yn gallu archwilio gwahanol ffynonellau neu fathau o gyllid neu gymorth a all fod yn addas er mwyn helpu i ddatblygu eu busnes.  Bydd cyllidwyr, buddsoddwyr ac arbenigwyr ehangu ar gael i gwrdd â chynhyrchwyr bwyd a diod sy’n chwilio am fuddsoddiad a chymorth er mwyn ehangu eu busnes.

Sut mae’n gweithio?

  1. Cofrestrwch a chwblhewch eich proffil
  2. Os ydych chi’n gynhyrchwr bwyd neu ddiod, darparwch grynodeb o’ch busnes a’r meysydd cyllid neu gymorth y mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw
  3. Os ydych chi’n ddarparwr cyllid, buddsoddwr, neu’n arbenigwr ehangu, darparwch grynodeb o’r mathau o fusnesau bwyd a diod y mae gennych chi ddiddordeb ynddyn nhw, maint y gronfa, a’r mathau o gyllid neu gymorth yr ydych chi’n eu cynnig
  4. Edrychwch drwy’r proffiliau a gofynnwch am gael cyfarfodydd gyda busnesau, buddsoddwyr neu arbenigwyr yr ydych chi’n dymuno eu cyfarfod
  5. Bydd amserlen bersonoledig o gyfarfodydd yn cael eu darparu a bydd cymorth ar gael yn ystod y diwrnod

Why participate?

  • Ffordd effeithlon ac effeithiol o gysylltu â chyllidwyr/buddsoddwyr/busnesau posibl sy’n chwilio am fuddsoddiad
  • Chi sy’n rheoli’r sefyllfa a gallwch chi ofyn, derbyn neu wrthod cyfarfodydd
  • Amserlen bersonoledig o gyfarfodydd er mwyn gwneud y defnydd mwyaf o’ch amser yn y gynhadledd

Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i gynrychiolwyr y gynhadledd Paratoi ar gyfer Ehangu Cynaliadwy.

https://gynhadledd-uwchraddio-cynaliadwy.eventbrite.co.uk

Registration
Closed since 26 November 2019
Location
Havannah St
CF10 5SD Cardiff, United Kingdom
Organised by